"Cawr i'wGenedl - Cyfrol i Gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards, Gol. Tegwyn Jones a Huw Walters, Gwasg Gomer, pounds 14.99; CYMRAEG.(Features)

From: Western Mail (Cardiff, Wales) | Date: July 19, 2008 | Copyright information

GAN dderbyn y dybiaeth ddychmygus fod pawb ohonom, yn rhinwedd ein natur a'n personoliaeth, yn perthyn nid yn unig i'r oes y'n ganed iddi ond yn perthyn hefyd i oes arall, gellir dweud yn ddibetrus mai Oes Victoria yw ail oes Hywel Teifi Edwards.

Yn y 19eg ganrif, lle bynnag y cariai'r gerbydres ef, gyda'i egni Brunelaidd, areithiai'n hir mor hyglyw a di-gloc a Gladstone mewn pafiliynau difeicroffon gerbron cynulleidfaoedd mwstashog a glawlennog, ar bopeth o symbolaeth r...