|
Hanes teulu o Gymry oedd yn amlwg a dim ofn mentro; Codwyd cryn ddiddordeb yn ein herthyglau am helyntion Cymro o Fon yn yr US Cavalry yn yr 1870au. Rwan, diolch i un o ddarllenwyr Yr Herald, dyma dipyn o hanes rhai o'i berthnasau.(Features)
From:
Daily Post (Liverpool, England)
| Date:
April 30, 2008
| COPYRIGHT 2008 MGN Ltd. This material is published under license from the publisher through the Gale Group, Farmington Hills, Michigan. All inquiries regarding rights should be directed to the Gale Group.Copyright information
|
Byline: TUDUR HUWS JONES
YN dilyn erthyglau yn Yr Herald Cymraeg ym mis Ionawr yn adrodd hanes Thomas Lloyd - y Cymro o Fon fu'n gwasanaethu yn yr US Cavalry adeg yr ymgyrchoedd yn erbyn y Sioux - daeth llythyr diddorol i law. Mae'n rhoi mwy o gefndir inni ar deulu Thomas Lloyd, ac yn dangos bod yr ysbryd fentrus yn bodoli ymhlith aelodau eraill o'i deulu. Hefyd mae'n dangos nad Thomas Lloyd oedd yr unig aelod o'r teulu i wasanaethu yn lluoedd arfog yr Unol Daleithiau. ...